Arfon Jones
Gwleidydd a chyn Chomisiynydd yr Heddlu a Throseddu dros Ogledd Cymru ydy Arfon Jones (ganwyd Mawrth 1955).[2] Bu'n gynghorydd ward Gorllewin Gwersyllt yng Nghyngor Sir Wrecsam ers 2008.[3] Mae'n cyn aelod o Blaid Cymru.[4] Magwyd Owain Arfon Jones yn ardal Ardudwy, Gwynedd a chafodd ei addysg uwchradd yn Ysgol Ardudwy, Harlech. Ym Mhrifysgol y Met, Caerdydd bu'n astudio Gwyddoniaeth Feddygol. GyrfaBu Arfon yn Arolygydd yn Heddlu Gogledd Cymru tan iddo ymddeol yn 2008.[5] Comisiynydd yr Heddlu a ThrosedduYm Mai 2016 cafodd Arfon ei ethol yn Gomisiynydd yr Heddlu a Throseddu dros Ogledd Cymru. Cynhaliwyd y bleidlais yr un diwrnod ag Etholiad y Cynulliad ar 5 Mai 2016. Oherwydd hyn, cododd y ganran a bleidleisiodd o 14.83% (yn 2012) i 43.78%.[6] Etholwyd aelod arall o Blaid Cymru, Dafydd Llywelyn fel Comisiynydd Heddlu a Throsedd dros ardal Dyfed Powys. Golyga hyn fod hanner nifer y comisiynwyr yn cynrychioli Plaid Cymru a'r hanner arall yn cynrychioli'r Blaid Lafur. Yn ardal Heddlu Gogledd Cymru, ceir 1,454 o swyddogion, 888 o staff a 232 o swyddogion cymorth cymunedol.[7] Yn ei anerchiad cyn yr etholiad dywedodd: “Fel Comisiynydd yr Heddlu fy mlaenoriaeth gyntaf fydd i gario allan adolygiad trwyadl o blismona crai gan fod arwyddion yn dangos fod hyd at 60% o waith yr heddlu yn waith y dylai asiantaethau fod yn ei wneud. “Hefyd gallai arbedion ei gneud drwy dargedu adnoddau yn fwy effeithiol e.e. Gwasanaeth Cyfiawnder i’r Ifanc, lle mae angen gwell dyrannu adnoddau i ymyrryd yn gynt i ddargyfeirio ieuenctid i ffwrdd o droseddu."[8]
Yn 2021 cyhoeddodd na fyddai yn sefyll eto yn etholiad nesaf y Comisiynydd, i'w gynnal y flwyddyn honno.[12]
Cyfeiriadau
Information related to Arfon Jones |
Portal di Ensiklopedia Dunia