Aled Huw

Aled Huw
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethnewyddiadurwr Edit this on Wikidata

Newyddiadurwr a darlledwr yw Aled Huw.

Bywyd cynnar ac addysg

Mynychodd Ysgol y Dderwen ac yna Ysgol Gyfun Bro Myrddin, Caerfyrddin. Aeth ymlaen i Goleg Wadham, Rhydychen lle enillodd radd Dosbarth Cyntaf mewn Cemeg.[1]

Gyrfa

Ymunodd a'r BBC yn 1990. Yn dilyn cyfnod yn newyddiadurwr dan hyfforddiant gyda'r BBC yn Llundain daeth yn ohebydd a chyflwynydd i BBC Cymru. Bu'n gweithio am saith mlynedd i BBC Cymru yn Llundain fel gohebydd Prydeinig a Rhyngwladol. Mae'n cyflwyno y prif raglen Newyddion ar S4C yn achlysurol. Mae hefyd wedi cyflwyno Taro'r Post ar BBC Radio Cymru.

Yn 2015 enillodd wobr 'Gohebydd newyddion teledu y flwyddyn yng Ngwobrau Cyfryngau Cymru.'[2]

Yn Rhagfyr 2024, cyhoeddodd y byddai'n gadael y BBC ar ôl 35 mlynedd.[3]

Cyfeiriadau

  1.  Llywydd dydd Sadwrn. BBC Cymru (2007). Adalwyd ar 24 Gorffennaf 2017.
  2. (Saesneg) Reporter scores hat-trick of award wins at revamped awards. holdthefrontpage.co.uk (20 Mawrth 2015).
  3. "Y gohebydd Aled Huw yn gadael y BBC ar ôl 35 mlynedd". BBC Cymru Fyw. 2024-12-21. Cyrchwyd 2024-12-24.

Dolenni allanol


Baner CymruEicon person Eginyn erthygl sydd uchod am Gymro neu Gymraes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.
Prefix: a b c d e f g h i j k l m n o p q r s t u v w x y z 0 1 2 3 4 5 6 7 8 9

Portal di Ensiklopedia Dunia

Kembali kehalaman sebelumnya