Aled Gruffydd Jones
Academydd yw Aled Gruffydd Jones (ganwyd 1955). Roedd yn Brif Weithredwr Llyfrgell Genedlaethol Cymru rhwng Chwefror 2013 ac Awst 2015[1] Bu Aled yn dal Cadair Hanes Cymru Syr John Williams ym Mhrifysgol Aberystwyth rhwng 1994 a 2013; cafodd ei benodi yng Ngorffennaf 2012 yn Bennaeth yr Adran Gymraeg. Bu hefyd yn Ddirprwy Is-Ganghellor Hŷn ers 2005 a bu'n gyfrifol am y ddarpariaeth Gymraeg ar draws y brifysgol.[2] Addysgwyd ef yn Ysgol Uwchradd Harlech ac yna ym Mhrifysgol Efrog, ble y cyfarfu â'r awdur a'r gymdeithasegydd gwleidyddol Yasmin Ali (g.1957). Mae ganddo ddoethuriaeth ym Mhrifysgol Warwick ers 1982. Mae wedi byw a gweithio yn Aberystwyth ers 1979 pan gafodd ei benodi gan yr Athro Rees Davies yn 1979[3] i'r Adran Hanes Fodern. Yn 1994 unwyd yr Adran Hanes gydag Adran Hanes Cymru ac fe'i gwnaed yn bennaeth ar yr adran newydd. Roedd yn un o gyfarwyddwyr Coleg Cymraeg Cenedlaethol rhwng 2011 a 2013.[4] Cyfeiriadau
Information related to Aled Gruffydd Jones |
Portal di Ensiklopedia Dunia