Ynysoedd Syllan
Grŵp o ynysoedd yng Nghefnfor Iwerydd i'r de-orllewin o Gernyw yw Ynysoedd Syllan (Cernyweg: Ynysek Syllan; Saesneg: Isles of Scilly neu'r Scillies). Mae 'na tua 140 o ynysoedd yn y grŵp ond dim ond 5 sydd â phobl yn byw arnyn' nhw, sef St Mary's (y fwyaf), Tresco, St Martin's, St Agnes a Bryher. Mae'r ynysoedd yn rhan o sir seremonïol Cernyw, ac mae rhai gwasanaethau'n cael eu cyfuno â rhai Cernyw. Fodd bynnag, er 1890, mae gan yr ynysoedd awdurdod lleol ar wahân. Ers pasio Gorchymyn Ynysoedd Syllan 1930, mae'r awdurdod hwn wedi cael statws cyngor sir. Maen nhw'n rhan o etholaeth seneddol St Ives. Arwynebedd yr ynysoedd yw tua 16 km² (6 milltir sgwar). Yng Nghyfrifiad 2011 roedd ganddyn nhw boblogaeth o 2,203.[1] Cymerir mantais ar yr hinsawdd fwyn i dyfu blodau cynnar ar gyfer y farchnad Brydeinig. Ceir hefyd nifer o ffermydd llaeth a thyfir llysiau hefyd. Mae twristiaeth yn ddiwydiant pwysig yn yr haf. ![]() ![]()
(1) trefedigaeth yno hyd at 1855 Cyfeiriadau
Information related to Ynysoedd Syllan |
Portal di Ensiklopedia Dunia