William R. Lewis
Dramodydd, beirniad ac athro sy'n hanu o Sir Fôn yw William Robert Lewis (ganwyd 1948). Magwyd Dr William Lewis yn Llangristiolus a Llangefni. Derbyniodd ei addysg yn Ysgol Gyfun Llangefni a Choleg Gogledd Cymru, Bangor, rhwng 1959 a 1966. Rhwng 1973 a 1978 bu'n athro Cymraeg a Drama yn Ysgol Syr Thomas Jones, Amlwch, a chyn hynny yn Ysgol Glan Clwyd, Llanelwy. Cyn ymddeol, bu'n Uwch-ddarlithydd yn Adran y Gymraeg Coleg Prifysgol Cymru, Bangor am dros bum mlynedd a deugain. Cychwynnodd yn y Coleg ym mis Medi 1978.[1] Ei briod faes oedd y ddrama a’r theatr Ewropeaidd, y ddrama a’r theatr yng Nghymru yn yr ugeinfed ganrif.[2] Enillodd Dlws y Ddrama yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Bro Dwyfor ym 1975 gyda'r ddrama feiddgar Geraint Llywelyn. a bu'n feirniad ar y gystadleuaeth sawl gwaith wedi hynny. Bu hefyd yn aelod o Fwrdd Artistig Cwmni Theatr Gwynedd ac yn aelod o dîm sgriptio'r cyfresi Pobol y Cwm ac Halen yn y Gwaed. Gan ei fod wedi ysgrifennu gweithiau ar gyfer y llwyfan, radio a theledu, dysgai hefyd gyrsiau creadigol i’w fyfyrwyr. Mae ganddo brofiad helaeth fel cyfarwyddwr theatr, ac wedi cyfarwyddo sawl drama o eiddo John Gwilym Jones a Saunders Lewis. Cyhoeddodd sawl astudiaeth feirniadol ar natur gwaith John Gwilym Jones. Mae ganddo diddordeb yn nramâu Cymraeg yr ugeinfed ganrif, yn arbennig gweithiau W.J.Gruffydd. Bu'n ddylanwad mawr ar nifer o ddramodwyr gan gynnwys Manon Wyn Williams.[3] Dramâu
Cyfeiriadau
Information related to William R. Lewis |
Portal di Ensiklopedia Dunia