Walter Mondale
Gwleidydd, diplomydd, a chyfreithiwr o'r Unol Daleithiau oedd Walter Frederick "Fritz" Mondale (5 Ionawr 1928 - 19 Ebrill 2021) a wasanaethodd fel 42ain is-lywydd yr Unol Daleithiau rhwng 1977 a 1981, o dan yr Arlywydd Jimmy Carter.[1][2] Roedd Mondale yn seneddwr o’r Unol Daleithiau dros Minnesota rhwng 1964 a 1976. Roedd e'n enwebai’r Blaid Ddemocrataidd yn yr etholiad arlywyddol 1984, ond collodd i Ronald Reagan. Cafodd ei eni yn Ceylon, Minnesota, yn fab i'r gweinidog Methodistiaidd Theodore Sigvaard Mondale a'i wraig Claribel Hope (née Cowan), athrawes cerddoriaeth.[3][4][5] Cafodd ei addysg yng Ngholeg Macalester ac ym Mhrifysgol Minnesota.[6] Priododd Joan Adams ym 1955; bu farw Joan yn 2014. Roedd eu ferch, Eleanor, yn actores a chyflwynydd teledu a radio, a fu farw o ganser yr ymennydd yn 2011. Mae Ted Mondale (g. 1957), mab Walter a Joan, yn gwleidydd. Llyfryddiaeth
Cyfeiriadau
Information related to Walter Mondale |
Portal di Ensiklopedia Dunia