Bardd, ysgrifwr, ysgolhaig ac athro prifysgol o Gymru oedd Thomas Herbert Parry-Williams (21 Medi1887 – 3 Mawrth1975). Mae'n cael ei adnabod yn aml fel T. H. Parry-Williams neu T.H.. Ef yw awdur y gerdd enwog "Hon".
Gyrfa
Ganed T. H. Parry-Williams yn Rhyd-ddu, Arfon, lle'r oedd ei dad yn ysgolfeistr; ysgrifennodd soned enwog i 'Dŷ'r Ysgol'. Roedd yn gefnder i'r bardd R. Williams Parry a'r ysgolhaig Thomas Parry. Graddiodd mewn Cymraeg yng Ngholeg Prifysgol Cymru, Aberystwyth ym 1908, ac yna cymerodd radd arall, mewn Lladin, y flwyddyn wedyn. Aeth i Goleg yr Iesu, Rhydychen ac yna i Brifysgolion Freiburg a Pharis i astudio ymhellach. Cymerodd safiad fel wrthwynebydd cydwybodol yn erbyn y Rhyfel Byd Cyntaf. Penodwyd ef i Gadair y Gymraeg yn Aberystwyth ym 1920, ac ar ôl ymddeol ym 1952 parhaodd i fyw yn y dref hyd ei farwolaeth ym 1975.
Daeth i sylw cenedlaethol pan enillodd y Gadair a'r Goron yn yr Eisteddfod Genedlaethol ym 1912. Roedd hyn yn gamp anghyffredin iawn, ond ym 1915 gwnaeth yr un peth eto. Cyhoeddodd nifer o gasgliadau o gerddi ac o ysgrifau, yn ogystal ag astudiaethau academaidd.
Roedd yr ysgrif, ffurf gymharol newydd yn y Gymraeg, yn bwysig ganddo ac ymhlith ei gasgliadau ceir Ysgrifau (1928), Olion (1935), Lloffion (1942), O'r Pedwar Gwynt (1944), Myfyrdodau (1957) a Pensynnu (1966). Casglwyd y cyfan o'i ysgrifau at ei gilydd ym 1984.
Cyhoeddodd y cyfrolau canlynol: Cerddi (1931), Olion (1935), Synfyfyrion (1937), Ugain o Gerddi (1949) a Myfyrdodau (1957). Cyhoeddwyd Detholiad o Gerddi ym 1972 a Casgliad o Gerddi ym 1987.
Ymwneud â bywyd mae ei gerddi fynychaf: mae diffyg ystyr bywyd i'w weld fel thema drwyddynt. Ef yw "brenin y soned Gymraeg"; dyma enghraifft allan o'r gerdd 'Llyn y Gadair':
Ymweliad â Rhyd-Ddu, bro T. H. Parry-Williams, ffotograff gan Geoff Charles
Ni wêl y teithiwr talog mono bron
Wrth edrych dros ei fasddwr ar y wlad.
Mae mwy o harddwch ym mynyddoedd hon
Nag mewn rhyw ddarn o lyn, heb ddim ond bad
Pysgotwr unig, sydd yn chwipio'r dŵr
A rhwyfo plwc yn awr ac yn y man,
Fel adyn ar gyfeilorn, neu fel gŵr
Ar ddyfroedd hunlle'n methu cyrraedd glan...
gan ddiweddu gyda'r cwpled canlynol sy'n dweud nad oedd dim yno: