Port Einon
Pentref a chymuned ar Benrhyn Gŵyr ym mwrdeisdref sirol Abertawe, Cymru, yw Port Einon ( ynganiad ) (Saesneg: Port Eynon). Saif ar arfordir deheuol Gŵyr. Twristiaeth yw'r diwydiant pwysicaf yma bellach, ond ar un adeg roedd y diwydiant gwneud halen yn bwysig ac roedd hefyd chwarel galchfaen. Sefydlwyd bad achub Port Einon yn ail hanner y 18g, a bu yno hyd 1919. Ar 1 Ionawr 1916, boddwyd tri pan aeth y bad achub i gynorthwyo criw yr SS Dunvegan a longddrylliwyd gerllaw. Mae cofeb iddynt yn y fynwent. Mae'r gymuned hefyd yn cynnwys pentref Scurlage. Roedd poblogaeth y gymuned yn 2001 yn 574. Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Rebecca Evans (Llafur) ac yn Senedd y DU (San Steffan) gan Tonia Antoniazzi (Llafur).[1][2] Cyfrifiad 2011Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[3][4][5][6] Pobl enwog o Bort Einon
Cyfeiriadau
Trefi a phentrefi
Dinas Information related to Port Einon |
Portal di Ensiklopedia Dunia