Pentre Maelor
Pentref i'r de-ddwyrain o dref Wrecsam, gogledd-ddwyrain Cymru, yn agos i ystad ddiwydiannol y dref, ydy Pentre Maelor. Mae'r pentref yn rhan o gymuned Abenbury ac ym Mhentre Maelor y mae mwyafrif poblogaeth y gymuned yn byw.[1] Mae'r afon Clywedog yn llifo ychydig i'r de o'r pentref. Cafodd Pentre Maelor ei sefydlu ym 1947 fel ystad dai er mwyn darparu llety i weithwyr o ffatrïoedd yn yr ardal. Mae'r pentref wedi cadw ei cynllun gwreiddiol, sy'n cynnwys clo canolog petryalog ac 'adenydd' cysylltiedig o dai, gyda pob un ohonyn yn cael ei hadeiladu o gwmpas gofod gwyrdd.[2] Roedd yr ardal leol yn cael ei adnabod yn wreiddiol fel 'Pilgrim's Place' oherwydd ei defnydd fel lle claddedigaeth ar gyfer anghydffurfwyr.[1] 'Pilgrim Way' yw enw un o strydedd yr ystad. Mae 'Maelor' yn enw'r pentref yn cyfeirio at enw hanesyddol yr ardal sydd bellach yn Fwrdeistref Sirol Wrecsam. Yn ystod yr Ail Ryfel Byd, adeiladwyd ffatri a oedd yn cynhyrchu cordit ar gyfer y rhyfel ar ddarpar safle'r pentref.[1] Yn 2017 adeiladwyd Carchar Berwyn nid nepell o Bentre Maelor, ar safle hen ffatri. Cofrestrwyd yr ystad yng Nghofnod Henebion Cenedlaethol Cymru gyda'rhif NPRN 409234.[2] Cyfeiriadau
Information related to Pentre Maelor |
Portal di Ensiklopedia Dunia