Pam Na Fu Cymru
Llyfr academaidd Cymraeg gan Simon Brooks yw Pam Na Fu Cymru: Methiant Cenedlaetholdeb Cymraeg. Cyhoeddwyd gan Wasg Prifysgol Cymru yn 2015 fel rhan o'r gyfres "Safbwyntiau". Pwnc a dadlCeisia'r awdur ganfod y rheswm pam na lwyddodd cenedlaetholdeb Cymreig, a Chymraeg yn enwedig, yn yr un modd â mudiadau cenedlaetholgar yng nghanolbarth a dwyrain Ewrop yn ystod y 19g. Dadleua Brookes taw rhyddfrydiaeth sy'n gyfrifol am y methiant hwn, gan ei bod yn canolbwyntio'n fwy ar ryngwladoldeb yn hytrach na phobloedd leiafrifol. Mae'n ymosod ar rai o eilunod hanes Cymru: radicalwyr ac anghydffurfwyr Oes Fictoria, oedd yn cofleidio egwyddorion hollfydol ac yn rhoi'r gorau i neilltuoldeb. O ganlyniad, daeth Prydeindod i ddominyddu bydolwg y sefydliad Cymreig, gan roi'r Gymraeg dan anfantais. DerbyniadLlwyddodd y llyfr i ennill lle ar restr fer y Wobr Ffeithiol Creadigol yng ngwobr Llyfr y Flwyddyn 2016.[1] Cyfeiriadau
Dolen allanol
Information related to Pam Na Fu Cymru |
Portal di Ensiklopedia Dunia