Ofydd
![]() Roedd Publius Ovidius Naso, neu Ofydd (20 Mawrth 43 CC–17 OC), yn fardd Lladin ac awdur Rhufeinig. Ysgrifennodd yn bennaf am serch a mytholeg glasurol. Fe'i ganwyd yn Sulmona, yr Eidal, yn fab i eques. Cafodd ei addysg yn Nhrufain. Ei gampwaith yw'r Metamorphoses ('Trawsffurfiadau'), sef cerdd 15 llyfr o hyd yn adrodd hanes y byd fel cyfres o gyfnewidiadau. Rhai o'r hanesion enwocaf yw hwnnw am y duw Apollo yn troi ei gariad Daphne yn lawryfen a'r un am Narcissus yn cael ei droi'n flodyn (y cenhinen bedr) ar ôl syllu ar ei adlewyrchiad yn y dŵr am gyfnod hir. Drwy'r Canol Oesoedd a'r Dadeni Dysg dyma oedd y gwaith llenyddol mwyaf poblogaidd yn yr iaith Ladin ac mae wedi gadael ôl sylweddol ar lenyddiaeth y Gorllewin, o William Shakespeare (roedd hanes trasig y cariadon Pyramus a Thisbe yn ysbrydoliaeth ar gyfer Romeo and Juliet) i Saunders Lewis (a ysgrifennodd gyfieithiad farddonol o'r un stori, Puraf a Thisbe). Gweithiau gan Ofydd sydd wedi goroesi
Information related to Ofydd |
Portal di Ensiklopedia Dunia