Mynydd Llangyndeyrn
Mae Mynydd Llangyndeyrn yn gopa mynydd a geir ger Pontyberem, yng Nghwm Gwendraeth rhwng Cross Hands a Chaerfyrddin; cyfeiriad grid SN482132. Uchder cymharol, neu ”amlygrwydd” y copa, ydy 93 metr: dyma'r uchder mae'r copa'n codi uwchlaw'r mynydd agosaf. Caiff y mynydd ei adnabod fel safle o Werth Gwyddonol Arbennig. Ceir yma hefyd ambell safle hanesyddol bwysig: dwy siambr gladdu, meini hirion a chylchoedd cerrig o'r Oes Efydd. Yn ystod y blynyddoedd nesaf bydd Menter Cwm Gwendraeth ar y cyd gyda Cadw a'r Comisiwn Cefn Gwlad yn ceisio gwarchod y lle drwy ei ddatblygu, a chafwyd nawdd o £200,000 i wneud hynny. Bydd tua 50 o wartheg duon Cymreig yn pori yno. Gellir gwled ar y mynydd, ymhlith eraill: Ffa'r Gors, Grug Clochog, Clochdar y Cerrig a Thelor y Gwair - a glöyn byw prin iawn o'r enw Brith y Gors. Dosberthir copaon Cymru, a gweddill gwledydd Prydain, yn rhestri arbennig yn ôl uchder ac yn ôl amlygrwydd y copa; mae'r copa hwn yn cael ei alw'n Marilyn (mynydd). Mae sawl cymdeithas yn mesur, gwiro a chasglu'r rhestri hyn a dônt ynghŷd ar wefan “Database of British and Irish hills”.[1] Uchder y copa o lefel y môr ydy 263 metr (863 tr). Cafodd yr uchder ei fesur a'i gadarnhau ar 22 Rhagfyr 2007. Gweler hefyd
Dolennau allanol
CyfeiriadauInformation related to Mynydd Llangyndeyrn |
Portal di Ensiklopedia Dunia