Mantell garpiog
Glöyn byw sy'n perthyn i deulu'r Nymphalidae yn urdd y Lepidoptera yw mantell garpiog, sy'n enw benywaidd; yr enw lluosog ydy mentyll carpiog; yr enw Saesneg yw Comma, a'r enw gwyddonol yw Polygonia c-album.[1][2] Adain garpiog yw enw arall arni. Mae'r Polygonia c-album i'w weld ledled Ewrop a'r ardaloedd cynnes yn Asia a Japan a'r holl ffordd i'r de i Forocco. Mae mathau tebyg iddynt ar gael yng Ngogledd America. [3][4][5] Mae lled ei adenydd (ar ei fwyaf) oddeutu 45mm gydag oddi tan yr adain o liw brown, gydag "c" ar bob un mewn gwyn. Dyma sut y cafodd yr enw Lladin. Mae ymylon yr adenyd yn igam-ogam, fel ymyl deilen ac mae hyn yn ddull hawdd o'i hadnabod.[4] Gan fod y math hwn o löyn byw yn cysgu drwy'r gaeaf, maen nhw i'w gweld drwy'r flwyddyn gron. Eu tymor hedfan, fodd bynnag ydy rhwng Ebrill a Thachwedd. EnwauMae'r enw Lladin (Polygonia c-album "c"-gwyn), y Saesneg (comma, "atalnod") ac un o'r enwau Ffrangeg yn cyfeirio at y nod gwyn ar ffurf atalnod ar ochr isaf yr isadain. Mae'r enwau Cymraeg a'r enw amgen Ffrangeg ill tri yn cyfeirio at ffurf "carpiog" yr adennydd. Mae un o'r enwau Ffrangeg yn tynnu ar draddodiad sy'n cysylltu ffurfiau toredig a lliwiau coch tanllyd â'r diafol. Enw amgen: adain garpiog. HANES YR ENWAU FFRENGIG AR Y FANTELL GARPIOG Les noms vernaculaires créés par Geoffroy en 1762 sont "Le Gamma", justifié si on décrypte la lettre alaire comme un G (gamma en grec), et "Le Robert-le-Diable", en raison de la découpe "à la diable" du bord échancré des ailes, et de la "couleur de diable enrhumé", bariolée de fauve, de noir et de feu. Le nom lui-même est tiré d'un des romans les plus populaires du XVIIe au XIXe, La terrible et merveilleuse vie de Robert le Diable, d'après une légende du XIIIe siècle. BwydPrif fwyd yr oedolyn ydy ysgall (Cirsium a Carduus), a mwyar duon: (Rubus fruticosus), Iorwg (Hedera helix) a Centaurea a'r yswydden (Ligustrum vulgare). Isrywogaethau
CyffredinolGellir dosbarthu'r pryfaid (neu'r Insecta) sy'n perthyn i'r Urdd a elwir yn Lepidoptera yn ddwy ran: y gloynnod byw a'r gwyfynod. Mae'r dosbarthiad hwn yn cynnwys mwy na 180,000 o rywogaethau mewn tua 128 o deuluoedd. Wedi deor o'i ŵy mae'r fantell garpiog yn lindysyn sy'n bwyta llawer o ddail, ac wedyn mae'n troi i fod yn chwiler. Daw allan o'r chwiler ar ôl rhai wythnosau. Mae pedwar cyfnod yng nghylchred bywyd glöynnod byw a gwyfynod: ŵy, lindysyn, chwiler ac oedolyn. Gweler hefydCyfeiriadau
Information related to Mantell garpiog |
Portal di Ensiklopedia Dunia