Bedd Louisa Matilda Spooner ym mynwent St Cynhaearn, Ynyscynhaearn. Claddwyd hi yn yr un bedd â'i rhieni.
Nofelydd o Gymru a ysgrifennai yn Saesneg oedd Louisa Matilda Spooner , ffugenw LMS (1820 – 5 Rhagfyr 1886 ).[ 1] [ 2] [ 3] [ 4] Cafodd ei geni ym Maentwrog . Roedd hi'n ferch i'r peiriannydd rheilffordd James Spooner . Bu farw ym Mhortmadog , heb briodi.
Ysgrifennodd dair nofel:
Gladys of Harlech; an Historical Romance (1858)
Country Landlords (1860)
The Welsh Heiress: A Novel (1868)
Canolbwyntiodd yn ei nofelau yn bennaf ar bynciau'n gysylltiedig â Chymru ac o safbwynt Cymreig. Yn Gladys of Harlech , defnyddiodd Spooner gefndir Rhyfeloedd y Rhosynnau i drafod Cymreictod yn ei pherthynas â choron Lloegr.[ 5] Yn Country Landlords , bu’n trafod perchnogaeth tir a gweriniaetholdeb yng nghyd-destun y Risorgimento yn yr Eidal yn ystod 19eg ganrif, tra bod The Welsh Heiress yn ymwneud ag effaith alcoholiaeth ar gymunedau ffermio.[ 6] [ 7] Mae ei holl nofelau wedi’u gosod yn ei sir enedigol, Sir Feirionnydd.
Cyfeiriadau
↑ Evans, Cleveland Kent (9 Hydref 2018). "Evans: From Welsh roots, Gladys has worked its way through the grapevine" . omaha.com (yn Saesneg). Omaha World Herald. Cyrchwyd 10 Rhagfyr 2023 .
↑ "Author: Louisa Matilda Spooner" . www.victorianresearch.org (yn Saesneg). Cyrchwyd 11 Rhagfyr 2023 .
↑ "L.M. Spooner Books & Audiobooks" . Everand (yn Saesneg). Cyrchwyd 11 Rhagfyr 2023 .
↑ Singer, Rita (2017). "Gladys of Harlech and the Wars of the Roses" . Porth Ymchwil Aberystwyth (yn Saesneg). Cyrchwyd 11 Rhagfyr 2023 .
↑ Singer, Rita (2015). Lindfield, Peter; Margrave, Christie. eds. "Liberating Britain from Foreign Bondage: A Welsh Revision of the Wars of the Roses in L. M. Spooner’s Gladys of Harlech; or, The Sacrifice (1858)" . Rule Britannia? : 143–158. https://research.aber.ac.uk/cy/publications/liberating-britain-from-foreign-bondage-a-welsh-revision-of-the-w-2 .
↑ Singer, Rita (2016-12-20). "Adapting the Risorgimento: Ideas of Liberal Nationhood in L. M. Spooner's Country Landlords (1860)" . Women's Writing 24 (4): 466–481. doi :10.1080/09699082.2016.1268342 . ISSN 0969-9082 . http://www.scopus.com/inward/record.url?scp=85006886578&partnerID=8YFLogxK .
↑ Singer, Rita (2022) (yn en), Re-inventing the Gwerin: Anglo-Welsh identities in fiction and non-fiction, 1847-1914 , Deutsche Nationalbibliothek, https://portal.dnb.de/opac.htm?method=simpleSearch&cqlMode=true&query=idn%3D1264863306 , adalwyd 16 Chwefror