Llywelyn ap Seisyll
Brenin Gwynedd a Deheubarth oedd Llywelyn ap Seisyll (bu farw 1023). Cyfeirir ato weithiau fel Llywelyn ap Seisyllt. BywgraffiadNi wyddir fawr am Seisyll (neu Seisyllt), tad Llywelyn. Mae'n bosibl nad oedd o waed brenhinol, er fod mam Llywelyn, Angharad, yn ferch i Maredudd ab Owain, fu'n frenin rhan helaeth o dde a gogledd Cymru am gyfnod. Daeth Llywelyn yn frenin Gwynedd yn 1018 pan gafodd fuddugoliaeth dros Aeddan ap Blegywryd mewn brwydr lle lladdwyd Aeddan a'i bedwar mab. Yn ddiweddarch cipiodd deyrnas Deheubarth hefyd, gan ennill buddugoliaeth dros Rhain, Gwyddel oedd yn honni bod a hawl i'r deyrnas, yn Abergwili yn 1022. Yn ôl Brut y Tywysogion, roedd teyrnasiad Llywelyn yn gyfnod llewyrchus, ond bu farw yn annisgwyl yn 1023. Roedd ei fab, Gruffudd ap Llywelyn, yn rhy ieuanc i geisio cipio'r orsedd pan fu farw ei dad, ond yn ddiweddarach daeth yn frenin Cymru gyfan. Gweler hefydCyfeiriadau
Information related to Llywelyn ap Seisyll |
Portal di Ensiklopedia Dunia