Lleuwen Steffan
Cantores a chyfansoddwraig yw Lleuwen Steffan (ganwyd 1979)[1] sy'n canu yn Gymraeg a Llydaweg. Mae hi'n perfformio dan yr enw Lleuwen[2][3] ac mae hi wedi defnyddio'r enw Lleuwen Tangi[3] yn ogystal. Mae hi'n fwyaf adnabyddus fel cyfansoddwraig caneuon barddononol. Mae ei cherddoriaeth yn cynnwys dehongliadau o emynau[2] yn ogystal â dylanwadau jazz a genres eraill. Mae hi hefyd wedi actio yn achlysurol gan ymddangos yn cynhyrchiad Theatr Genedlaethol Cymru, Merch yr Eog yn 2016[4]. Bywyd personolMae Lleuwen yn briod gyda'r bardd Lan Tangi yn Llydaw. Mae hi'n byw gydag anhwylder deubegwn[5][6] ac wedi goresgyn problemau gydag alcohol.[5] Mae ganddi ddau o blant[6], ac mae hi'n ferch i'r canwr Steve Eaves ac yn chwaer i'r awdures Manon Steffan Ros. Albymau
GwobrauEnillodd wobr Prizioù yn 2012 ar gyfer yr albwm Llydaweg orau, ar gyfer ei halbwm Tân. Lleuwen oedd enillydd cystadleuaeth Liet International 2013 gyda'i chân Ar Gouloù Bev[3]. Cyfeiriadau
Information related to Lleuwen Steffan |
Portal di Ensiklopedia Dunia