Jenny Ogwen
Cyflwynwraig ac actores o Gymraes yw Jenny Ogwen (neé Jones)[1], sy'n fwyaf adnabyddus am gyflwyno'r tywydd ar raglen Newyddion ar S4C. Bywyd cynnarGanwyd Ogwen yn Llandybie, Sir Gaerfyrddin a symudodd ei theulu i Grymych, Sir Benfro pan oedd yn ddwy oed.[2] Yn ei harddegau cafodd ei choroni'n 'Miss Pembrokeshire 1961' ac enillodd deitl 'Miss Norvic Teenager of the Year' yn Llundain. Gadawodd ysgol yn 16 ac aeth i Lundain i hyfforddi i fod yn ysgrifenyddes pan oedd yn 17 oed. Daeth yn ôl i Gymru yn 19 oed.[3] GyrfaEi swydd gyntaf yn y cyfryngau oedd fel ysgrifenyddes ar raglen newyddion Y Dydd. Aeth ymlaen i gyflwyno'r rhaglen Siôn a Siân yn ystod yr 1960au a rhaglenni i blant ac actio yn Now You're Talking, sef cyfres deledu i ddysgwyr. Mae hefyd wedi cyflwyno ar Radio Acen.[2] Bu'n gyflwynydd ar HTV Cymru a Thames TV cyn cyflwyno'r tywydd ar raglen Newyddion ar S4C yn yr 1990au. Ymddeolodd o'i swydd fel cyflwynydd tywydd yn Awst 2004 a chymerodd Erin Roberts ei hen swydd.[4][5] Mae ei theulu hefyd yn ymwneud â'r cyfryngau. Roedd ei gŵr Euryn Ogwen Williams (1942–2021) yn ddarlledwr a cynhyrchydd teledu nodedig. Mae ei mab Rhodri yn gweithio gyda Sky Sports yn Llundain ac i S4C ar raglenni fel Y Clwb Rygbi a Pacio. Mae'n fam i Sara, sy'n cyflwyno ar S4C, a hefyd yn nain i'w merch hithau, Soffia, a chwaraeodd Catrin Bennett yn Pobol y Cwm.[2] Llyfryddiaeth
Cyfeiriadau
Information related to Jenny Ogwen |
Portal di Ensiklopedia Dunia