Iwstinian I
Ymerawdwr Bysantaidd rhwng 527 a 565 oedd Iwstinian I, hefyd Iwstinian Fawr (Lladin: Flavius Petrus Sabbatius Justinianus, Groeg (iaith): Φλάβιος Πέτρος Σαββάτιος Ιουστινιανός 482/483 – 13 neu 14 Tachwedd 565). Ganed Iwstinian yn Illyria; mae'n ymddangos mai Lladin oedd ei iaith gyntaf yn hytrach na Groeg. Aeth ei ewythr Justinus i Gaergystennin a phan daeth yn ddylanwadol yn y gard ymerodrol, galwodd Iwstinian yno ato a'i fabwysiadu. Daeth Justinus ym ymerawdwr, a chredir i Iwstinian fod â rhan bwysig yn rheoli'r ymerodraeth yn ystod ei deyrnasiad ef. Ar farwolaeth Justinus, daeth Iwstinian yn ymerawdwr ar 9 Awst 527. Cafodd Iwstinian ddylwanwad mawr ar yr ymerodraeth. Dechreuodd ymgyrch i adennill y tiriogaethau a gollwyd gan yr ymerodraeth Rufeinig yn y gorllewin, y renovatio imperii neu "adfer yr ymerodraeth". Dan gadfridogion fel Belisarius a Narses, enillwyd tiriogaethau eang yn ôl yn y gorllewin, er na allodd yr ymerodraeth ddal ei gafael arnynt yn y pen draw. Bu Iwstinian hefyd yn gyfrifol am ail-ysgrifennu Cyfraith Rhufain, y Corpus Juris Civilis sy'n parhau i fod yn sylfaen y gyfraith sifil mewn llawer o wledydd. Bu adfywiad diwylliannol yn ystod ei deyrnasiad hefyd, gan gynnwys adeiladu eglwys enwog Hagia Sophia yng Nghaergystennin. Rhoddwyd diwedd ar gynlluniau mwyaf uchelgeisiol Iwstinian gan Bla Iwstinian, yn ôl pob tebyg y Pla Du, a darawodd yr ymerodraeth yn y 540au cynnar gan achosi nifer fawr o farwolaethau. Cafodd Iwstinian ei hun y pla, ond roedd ef yn un o'r ychydig a lwyddodd i wella ohono. Ceir hanes y cyfnod yng ngwaith yr hanesydd Procopius. Information related to Iwstinian I |
Portal di Ensiklopedia Dunia