Gwobr Dylan Thomas
Gwobr llenyddol ar gyfer llenorion ifanc yw Gwobr Dylan Thomas (Saesneg: Dylan Thomas Prize), a gaiff ei wobrwyo pob yn ail blwyddyn er cof am Dylan Thomas. Mae'r wobr yn dod ag adnabyddiaeth rhyngwladol a gwobr ariannol o £30,000. Mae'n agored i waith yn yr iaith Saesneg gan unrhyw un o dan 30 oed. Argymhellir y gweithiau ar gyfer y wobr gan gyhoeddwr, golygydd neu asiant; neu ar gyfer dramâu theatr neu sgrin, gan y cynhyrchydd. Mae'r wobr yn anrhydeddu'r enillydd a'r rhai sy'n cyrraedd y rhestr fer ar gyfer gwaith mewn ystod eang o'r ffurfiau llenyddol roedd Dylan Thomas yn rhagori ynddynt; mae hyn yn cynnwys barddoniaeth, rhyddiaith, drama dychmygol, casgliadau o straeon byrion, nofelau, a dramâu ar gyfer theatr a'r sgrin. Gwobrwywyd wobr llenyddol er cof Dylan Thomas am y tro cyntaf yn ystod yr 1980au (adnabuwyd yn Saesneg fel y Dylan Thomas Award), yn dilyn ymgyrch i osod plac i goffau'r bardd yn Abaty Westminster.[1] Cafodd cyllid dros ben a godwyd gan cyngerdd a noddwyd gan y cwmni teledu HTV ei gyfrannu er mwyn cynnig gwobr o £1000 yn flynyddol.[1] Ar ôl ychydig flynyddoedd, daeth y wobr i ben oherwydd diffyg ariannu. Ail-sefydlwyd y wobr dan ei newydd wedd yn 2004 a gwobrwywyd am y tro cyntaf yn 2006, gan gael ei noddi gan gwmni Electronic Data Systems, a oedd yn un o gyflogwyr mwyaf Abertawe ar y pryd.[2] Mae'r wobr yn cael ei redeg gan Brifysgol Cymru, ac ariannir gan gyfraniadau gwirfoddol.[3][4] Cyflwynwyd gwobr ychwanegol o £5,000, a noddwyd gan Sony Reader, yn 2010, ar gyfer llenorion heb eu cyhoeddi. Enillwyd hon gan Stefan Mohamed, o Bowys, gyda'i nofel Bitter Sixteen.[5] 2012Enillydd
Rhestr fer[7]
2010Enillydd
Rhestr fer[8]
Gwobr llenolion heb eu cyhoeddi 2008Enillydd
Rhestr fer
2006Enillydd Rhestr fer[9]
Enillwyr yr hen wobr
Cyfeiriadau
Dolenni allanolInformation related to Gwobr Dylan Thomas |
Portal di Ensiklopedia Dunia