Ardal a chymuned yng Nghaerdydd yw Grangetown.[1] Mae'n un o faestrefi mwyaf Caerdydd, ac mae'n ffinio ag ardaloedd Glan'rafon, Treganna a Thre-Biwt. Mae Afon Taf yn nadreddu drwy'r ardal. Fe'i datblygwyd gan deulu Winsdor-Clive, yn bennaf. Gyferbyn ag ardal Bae Caerdydd, mae Grangetown wedi ennill o'r datblygiadau a welwyd yno'n ddiweddar, gan gynnwys adeiladau newydd a gwasanaethau megis cysylltiadau trafnidiaeth gwell.
Roedd gan Grangetown boblogaeth o 18,362 mewn 8,261 aelwyd adeg cyfrifiad 2011[2]. Mae'n ardal amrywiol ac amlddiwylliannol, gyda phoblogaeth sylweddol o bobl o dras Somaliaidd, Asiaidd, a thras cymysg. Mae'n gartref i deml Hindŵ mwyaf Caerdydd,[3] ac amryw o fosgiau gan gynnwys mosg newydd Abu Bakkar.
Enwau Cymraeg
Grangetown yw'r enw safonol yn y Gymraeg.[1] Mae'r enw'n cyfeirio at ystad neu grange a oedd yn eiddo gynt i Abaty Margam. Mae hen ffermdy y Grange, sydd â'i wreiddiau yn yr Oesoedd Canol, yn dal i'w weld ar gornel Clive Street a Stockland Street. Daeth yr enw Grangetown i fodolaeth yn 19g pan godwyd maestref newydd ar y tir o amlgylch y ffermdy.[4]
Yn Gymraeg, gwelir weithiau yr amrywiadau Y Grange (sy'n dyddio'n ôl i'r 19g[5]) ac Y Grenj[6] – mae'r ddau'n cyfateb i'r Saesneg The Grange. Mae Owen John Thomas wedi arfer y ffurf Y Grange Mawr, sydd o bosibl yn dangos dylanwad ffurfiau Saesneg hynafol megis Mor Grange a Grange Moor.[7]
Mae'r enwau Trelluest[8], Trefaenor[9] a Trefynach[10] yn fathiadau diweddar heb seiliau hanesyddol. Yr hanesydd John Davies a fathodd Trelluest ar sail enwau yng Ngheredigion a gynhwysai'r elfen lluest yn yr ystyr 'cartref dros dro'.[11] Ond fel y dywed Elwyn Davies, ‘Lluest is not known as a name for a township or other administrative area, or for a grange of a monastery. Nor has it been traced as a place-name to such early dates [hynny yw, yr Oesoedd Canol].'[12]
Grangetown yw'r ffurf a ddefnyddir gan Wyddoniadur Cymru (t. 118) ond mae hefyd yn cydnabod bolodaeth y ffurf Trelluest.
↑"Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. Cyrchwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.