George Williams (YMCA)
Dyngarwr Seisnig, dyn busnes a sylfaenydd yr YMCA (Young Men's Christian Association) oedd Syr George Williams (11 Hydref 1821 – 6 Tachwedd 1905).[1] Yr YMCA yw'r elusen ieuenctid hynaf a mwyaf yn y byd, ei nod yw cefnogi pobl ifanc i berthyn, cyfrannu a ffynnu yn eu cymunedau.[2] Bu farw yn 1905 ac mae wedi ei gladdu yn Eglwys Gadeiriol St Paul, Llundain. Mae'n hen-hen-hen dad-cu i gyn Brif Weinidog Prydain, Boris Johnson.[3] Bywyd cynnar ac addysgGaned Williams ar fferm yn Dulverton, Gwlad yr Haf, Lloegr, fel yr ieuengaf o saith mab Amos Williams ac Elizabeth Vickery a oroesodd. Bedyddiwyd ef yn Eglwys Loegr.[4] Yn ddyn ifanc, disgrifiodd ei hun fel "careless, thoughtless, godless, swearing young fellow". Ym 1837, trosodd Williams o Anglicaniaeth i Annibynwyr. Aeth i'r Zion Congregational Church a daeth yn aelod cyfranogol.[5] Yng ngaeaf 1837, gwnaeth geiriau Evan James, efengylwr Cymreig oedd yn pregethu yno, argraff fawr ar George: "Rho dy galon i Dduw tra yn ifanc. Chwefror 4, 1838, derbyniwyd ef yn aelod o'r gynnulleidfa hon."[6] GyrfaYn 1841, aeth i Lundain a gweithiodd fel prentis yn siop ddillad Hitchcock & Rogers a daeth yn aelod o y King's Weigh House Congregationalist Church, gan ddefnyddio ei amser ar gyfer efengylu. Ar ôl tair blynedd, ym 1844, dyrchafwyd Williams yn rheolwr adran. Priododd ferch y perchennog George Hitchcock, Helen Jane Maunder Hitchcock, ym 1853, a chymerwyd ef i bartneriaeth yn y siop ddillad, gan ailenwi'r siop i George Hitchcock, Williams & Co. Pan fu farw Hitchcock ym 1863, Williams oedd unig berchennog y cwmni. Roedd gan Hitchcock a Williams 7 o blant, aeth ei fab Albert, oedd yn gyfreithiwr yn ei flaen i briodi wyres Thomas Cook. Priododd nai Williams, John Williams, unig blentyn ei gyfaill oes o Lundain, Matthew Hodder, sylfaenydd y cyhoeddwr Prydeinig Hodder & Stoughton.[7] Bu ei angladd yn Eglwys Gadeiriol St Paul's[8] ar 14 Tachwedd 1905, gyda 2,600 o bobl yn bresennol[7] ac fe'i coffheir gyda phenddelw ar ben ei gladdgell deuluol ym Mynwent Highgate (gorllewin). Sefydlu'r YMCAWedi'i arswydo gan yr amodau ofnadwy yn Llundain i weithwyr ifanc, ar 6 Mehefin 1844 casglodd Williams griw o 11 o gyd-ddilledwyr yn ystafell rhif 14 llety Hitchcock & Rogers i greu lle na fyddai'n temtio dynion ifanc i bechod.[9] Y rhain oedd James Smith (o ddillad W D Owen), Christopher. W Smith, Norton Smith, Edward Valentine, Edward Beaumont, M Glasson, William Creese, Francis John Crockett, E Rogers, John Harvey a John C Symons. Yn y 5ed cyfarfod ar 4 Gorffennaf 1844, trafodwyd yr enw. Ymhlith pethau eraill, cynigiwyd Cymdeithas Berea (Crybwyllir y dref yn Actau’r Apostolion yng Nghroeg fel man lle pregethodd yr apostolion Paul, Silas a Timotheus yr Efengyl Gristnogol.). Ni phenderfynwyd ar yr enw diffiniol tan ychydig yn ddiweddarach. Nododd y cofnodion:
Penderfynwyd ar yr enw, Young Men's Christian Association (YMCA), ar awgrym Christopher W. Smith, cyd-ddilledydd yn Hitchcock & Rogers. Roedd yn hyrwyddo Cristnogaeth Gyhyrol. Un o'r tröedigion cynharaf a chyfranwyr i'r gymdeithas newydd oedd cyflogwr George, George Hitchcock, ddaeth yn drysorydd cyntaf y sefydliad. Roedd George yn weithgar mewn 33 ffederasiwn YMCA mewn rhyw ffordd. Yn 1905 (blwyddyn ei farwolaeth) cymerodd y cyfle i fynychu cynhadledd y YMCA ym Mharis:[6]
AnrhydeddauUrddwyd Williams yn farchog gan y Frenhines Victoria yn ei hanrhydedd pen-blwydd yn 1894, blwyddyn jiwbilî arian yr YMCA, yn ogystal â derbyn Rhyddid Dinas Llundain.[7] Ar ôl ei farwolaeth yn 1905, cafodd ei goffáu gan ffenestr liw yng nghorff Abaty Westminster. Mae Syr George Williams wedi ei gladdu yn Eglwys Gadeiriol Sant Pawl. Cafodd Prifysgol Syr George Williams ym Montréal, a sefydlwyd gan YMCA, ei henwi er cof am Williams; fe'i unwyd yn ddiweddarach â Phrifysgol Concordia,[10] gyda'i hen gampws yn cadw'r enw Campws Syr George Williams. Mae Coleg George Williams, a leolir ar lan Llyn Geneva yn Wisconsin, UDA, yn lloeren o Brifysgol Aurora, ac mae hefyd wedi'i enwi ar ôl Williams. Cafodd Williams House yn YMCA Coleg Cristnogol Hong Kong, a sefydlwyd gan YMCA Hong Kong, ei enwi i goffau Williams.[11] Cyfeiriadau
Dolenni allanol
Information related to George Williams (YMCA) |
Portal di Ensiklopedia Dunia