Gary Lloyd
Cyn bêl-droediwr gyda'r Barri Caerfyrddin a Llanelli yw Gary Lloyd. Chwaraeodd Lloyd dros 500 o gemau yn Uwch Gynghrair Cymru gan ennill y Bencampwriaeth wyth gwaith yn ogystal â chodi Cwpan Cymru ar bedair achlysur a Chwpan y Gynghrair ar chwe achlysur. Er cael treial gydag Abertawe, dechreuodd Lloyd ei yrfa’n chwarae i’w glwb lleol, Llanelli cyn ymuno â'r Barri yn Uwch Gynghrair Cymru ym 1994[1] Chwaraeodd 282 o gemau i’r Barri rhwng 1994 a 2003, sef record ymddangosiadau’r clwb yn yr Uwch Gynghrair, gan ennill y Bencampwriaeth saith o weithiau mewn wyth tymor euraidd gyda’r clwb, a chipio Cwpan Cymru a Chwpan y Gynghrair bedair gwaith yr un. Yn dilyn problemau ariannol y clwb, ymunodd â Chasnewydd am dymor ond dychwelodd i Uwch Gynghrair Cymru yn 2004-05 gyda Chaerfyrddin gan ennill Cwpan y Gynghrair am y pumed tro a chyrraedd rownd derfynol Cwpan Cymru yn 2004-05. Daeth awr fwyaf Lloyd i Gaerfyrddin yng Nghwpan UEFA, pan sgoriodd ddwywaith wrth guro Longford Town 5-1 ym muddugoliaeth gynta’r clwb yn Ewrop.[2] Yn 2006, dychwelodd Lloyd i Lanelli gan ennilly Bencampwriaeth am yr wythfed tro a Chwpan y Gynghrair am y chweched tro yn ei yrfa. Gwnaeth 29 o ymddangosiadau llawn mewn gemau Ewropeaidd i’r Barri, Caerfyrddin a Llanelli a Lloyd hefyd yw’r unig chwaraewr i gael ei alw i garfan ryngwladol Cymru tra’n dal i chwarae’n y gynghrair genedlaethol, a hynny i wynebu Gwlad Belg yn 1997.[3] Ym mis Hydref 2012 cafodd Lloyd ei urddo'n aelod o Oriel Anfarwolion Uwch Gynghrair Cymru.[3] Cyfeiriadau
Information related to Gary Lloyd |
Portal di Ensiklopedia Dunia