Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru
Gerddi, parcdir a chanolfan ymchwil botanegol ger Llanarthne, Sir Gaerfyrddin, yw Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru. Fe'i sefydlwyd yn y flwyddyn 2000 fel rhan o ddathliadau'r Mileniwm. Cafodd yr ardd ei datblygu ar safle 568 acer hen Neuadd Middleton ger Llanarthne, yn Nyffryn Tywi. Canolbwynt yr ardd yw'r tŷ gwydr un-rhychwant anferth, y mwyaf o'i fath yn y byd, a gynlluniwyd gan y pensaer Norman Foster.[1] Mae'r tŷ gwydr yn cynnwys planhigion o gynefinoedd sydd dan fygythiand yng ngwahanol rannau o'r byd, gan gynnwys Awstralia, De Affrica, Chile, Califfornia a Môr y Canoldir. Derbyniwyd £22.25 miliwn o arian loteri trwy Gomisiwn y Mileniwm i'w sefydlu.[2] Mae'n cael ei hariannu gan roddion a thâl mynediad a grantiau gan Llywodraeth Cynulliad Cenedlaethol Cymru. ![]() Cyfeiriadau
Dolenni allanolInformation related to Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru |
Portal di Ensiklopedia Dunia