Emilia-Romagna
Rhanbarth yng ngogledd yr Eidal yw Emilia-Romagna. Bologna yw'r brifddinas; dinasoedd pwysig eraill yw Modena, Parma, Reggio Emilia, Ravenna a Rimini. Saif Emilia-Romagna rhwng y Môr Adriatig yn y dwyrain, afon Po yn y gogledd a mynyddoedd yr Appenninau yn y de. Ffurfiwyd y rhanbarth trwy uno rhanbarthau hanesyddol Emilia a Romagna. Caiff Emilia ei henw o'r via Æmilia, y ffordd Rufeinig o Rufain i ogledd yr Eidal. Rhennir y rhanbarth yn naw talaith: Bologna, Ferrara, Forlì-Cesena, Modena, Parma, Piacenza, Ravenna, Reggio Emilia a Rimini. Amaethyddiaeth a'r diwydiant bwyd yw'r elfen bwysicaf yn yr economi, gyda diwydiannau bwyd yn Parma a Bologna. Mae'r diwydiant ceir yn bwysig hefyd, gyda Ferrari, Ducati, Lamborghini a Maserati yn cael eu cynrychioli yma. Mae mentrau cydweithredol yn arbennig o gyffredin yn Emilia-Romagna, ac mae'r chwith yn gryf yma yn wleidyddol. Yng Nghyfrifiad 2011 roedd gan y rhanbarth boblogaeth o 4,342,135.[1] ![]() Rhennir y rhanbarth yn naw talaith a enwir ar ôl eu canolfannau gweinyddol, sef:
![]() Cyfeiriadau
Information related to Emilia-Romagna |
Portal di Ensiklopedia Dunia