Comisiynydd yr iaith Maori
![]() Mae Comisiwn Iaith Māori (Māori: Te Taura Whiri ite Reo Māori; yn Saesneg: Māori Language Commission) yn endid hunanlywodraethol y Goron yn Seland Newydd a sefydlwyd gan Ddeddf Iaith Māori Seland Newydd 1987 (Deddf Iaith Māori) .[1][2] Mae Deddf Iaith Māori 2016, a ddisodlodd yr un flaenorol, yn parhau â bodolaeth a rôl y Comisiwn.[3] Mae pencadlys y corff yn 10 Customhouse Quay, Wellington. Nid yw Te Taura Whiri ite Reo Maori yn aelodau o IALC, Gymdeithas Ryngwladol y Comisiynwyr Iaith (International Association of Language Commissioners). CenhadaethDywed gwefan swyddogol y Comisiwn yn glir;[4]
Mae gan y Comisiwn sawl cenhadaeth gan gynnwys cychwyn, datblygu, cydgysylltu, archwilio, cynghori a chynorthwyo i weithredu polisïau, gweithdrefnau, mesurau ac arferion a luniwyd i weithredu’r datganiad yn adran 3 o’r Ddeddf Iaith hon Māori fel iaith swyddogol Seland Newydd. Swyddiogaethau penodolCeir pum prif swyddogol yn ôl Deddf Iaith Māori 1987:
Hanes![]() Sefydlwyd y Comisiwn wedi degawdau o ymgyrchu dros hawliau iaith frodorol Seland Newydd, y Maori. Am y rhan fwyaf o'r 20g bu i lywodraeth Seland Newydd atal, gwahardd a'i gwneud yn gymdeithasol annerbyniol i siarad te reo Māori (yr iaith Maoreg) yn agored. Yn 1972 cyflwynodd hyrwyddwyr iaith Māori ddeiseb yn galw am ddysgu te reo mewn ysgolion sef, Deiseb Iaith Māori, i’r senedd. Roedd y ddeiseb yn cynnwys llofnodion mwy na 30,000 o Seland Newydd. Daeth y diwrnod hwnnw – 14 Medi 1972 – yn Ddiwrnod yr Iaith Māori, a ehangodd maes o law i’r hyn a adwaenir gennym fel Wythnos yr Iaith Māori. Arweiniodd eu protest heddychlon hefyd at hawliad llwyddiannus Iaith Māori i Dribiwnlys Waitangi a deddfiad Deddf Iaith Māori 1987. Roedd y Ddeddf yn cydnabod Maoreg fel iaith swyddogol a hefyd yn creu yr hyn y galwa'r Maori yn "whare" - sef 'cartref', 'tŷ' efallai'n atosach i'r cysyniad Gymraeg o gynefin, i'r iaith). Aelodau'r bwrdd sefydlu oedd Syr Tīmoti Karetū, Syr Kīngi Matutaera Ihaka, Y Fonesig Kāterina Te Heikōkō Mataira, Anita Moke a Dr Ray Harlow. Bu i Syr Tīmoti Karetū fod yn bennaf gyfrifol am sefydlu Toitū Te Reo yn 2024, sef gŵyl iaith Maori a ysbrydolwyd gan yr Eisteddfod Gymraeg.[5] Bathu enwYn wahanol i Gomisiynwyr iaith eraill, nid yw teitl y swydd neu'r sefydliad yn cynnyw y gair "comisiwn" neu "comisiynydd" er mai dyna oedd yr enw i gychwyn. Yng nghyfarfod cyntaf y bwrdd yr enw gweithredol oedd ‘'Te Komihana mō te Reo Māori’', cyfieithiad o 'Gomisiwn yr Iaith Māori'. Gweithred gyntaf y bwrdd oedd disodli hwn gydag enw a deimlent oedd yn fwy cynhenid Māori sef: ‘'Te Taura Whiri i te Reo Māori', sydd, o'i gyfieithu yn uniongyrchol yn cyfieithu i "y rhaff sy’n clymu’r iaith". Bathwyd yr enw gan Syr Kingi oherwydd mai'r "rhaff sy'n ein clymu ni i gyd gyda'n gilydd yw ein hiaith. Rhaff sy'n cael ei gweu gan bob llwyth a phob person i fod yn gryf am byth." Yn yr un cyfarfod crëwyd y logo, rhaff wedi'i gwehyddu'n rhannol, gan y Fonesig Kāterina.[6] Prif Weithredwyr
Gweler hefyd
Cyfeiriadau
Dolenni allanol
Information related to Comisiynydd yr iaith Maori |
Portal di Ensiklopedia Dunia