Chwaraeon Cymru
Chwaraeon Cymru (Saesneg Sport Wales) yw'r corff cenedlaethol sy'n gyfrifol am ddatblygu a hyrwyddo chwaraeon ac ymarfer corff yng Nghymru. Mae'n cyd-weithio gyda phartneriaid chwaraeon o bob math ac awdurdodau chwaraeon gyda'r amcan i hyrwyddo uchelgais yn yr ifanc ac hybu safonau pencampwyr yn genedlaethol. Chwareon Cymru yw prif gynghorwyr Llywodraeth Cymru ar ddosranni arian y Loteri Genedlaethol tuag at ariannu chwaraeon elît a llawr gwlad yng Nghymru. Penodwyd Dr Paul Thomas yn Gadeirydd newydd y corff yn 2016 yn dilyn cyfnod Laura McAllister.[1] Ond saciwyd y Cadeirydd a'r is-Gadeirydd gan Lywodraeth Cymru ym mis Mawrth 2017 gan Lywodraeth Cymru oherwydd pryderon fod y corff wedi dod yn anhrefnus.[2] Yn dilyn cyfnod o ansicrwydd wedi cyfnod dros dro fel Cadeirydd, pendodwyd Lawrence Conway fel y Cadeirydd newydd ar 3 Mehefin 2018.[3] Mae Lawrence Conway yn gyn-was sifil gyda Llywodraeth Cymru, Swyddfa Cymru a Chorfforaeth Datblygu Bae Caerdydd Sefydlwyd Chwaraeon Cymru yn 1972. Mae ei phencadlys yng Ngerddi Sophia, Caerdydd. Ei chyllideb blyyddol yn 2018 oedd oddeutu £22m. Mae Chwaraeon Cymru yn un o brif gefnogwyr Gemau Cymru, sef cystadlaethau athletau, gymnasteg a rhai chwaraeon eraill a drefnir yn flynyddol gan Urdd Gobaith Cymru. DolenniCyfeiriadau
Information related to Chwaraeon Cymru |
Portal di Ensiklopedia Dunia