Carennydd
Perthynas rhwng bodau dynol yn seiliedig ar linach teuluol, hynny yw drwy perthynas waed a phriodas, yw carennydd. Gelwir grŵp cymdeithasol o aelodau teuluol yn grŵp ceraint. Y teulu niwclear yw'r grŵp ceraint sylfaenol, ac ar ei ffurf leiaf gall gynnwys dau berson yn unig, megis cwpl heb blant neu riant sengl ac unig blentyn. Mae grwpiau ceraint mwy o faint yn cynnwys y teulu estynedig, bandiau, claniau, a llwythau.[1] Gelwir perthynas glos iawn heb sail deuluol neu briodasol yn garennydd gwneud. GeirdarddiadDaw'r gair Cymraeg "carennydd" neu "cerennydd" o'r gwraidd Indo-Ewropeg karantįio-m.[2] Yn ôl y diffiniad traddodiadol mae'r gair yn disgrifio perthynas deuluol hyd y nawfed ach, yn ôl Cyfraith Hywel Dda:[3]
AstudiaethauCychwynnodd yr astudiaeth fodern ym meysydd ieitheg a'r gyfraith gymharol yng nghanol y 19eg ganrif. Ar ddiwedd y ganrif honno daeth astudiaethau carennydd yn ganolbwynt i anthropoleg.[4] Cyfeiriadau
Information related to Carennydd |
Portal di Ensiklopedia Dunia