Cadwallon ap Cadfan
Roedd Cadwallon ap Cadfan (bu farw 633) yn frenin Gwynedd o tua 625 hyd ei farw. HanesEtifeddodd Cadwallon deyrnas Gwynedd ar farwolaeth ei dad, Cadfan ap Iago. Ymosododd Edwin o Deira (Northumbria heddiw) ar Wynedd gan gyrraedd cyn belled ag Ynys Môn gan orfodi Cadwallon i ffoi i Ynys Lannog ac yna i Iwerddon. Yn ôl yr Annales Cambriae digwyddodd hyn yn 629. Yn ôl Sieffre o Fynwy yr oedd Edwin flynyddoedd ynghynt wedi cael lloches gan dad Cadwallon, Cadfan, ac mae'r Trioedd Cymreig yn disgrifio Edwin fel "un o dri gormeswr ar Fôn a fagwyd ar yr ynys". Daeth Cadwallon i gytundeb â Penda, brenin Mersia, ac ymosododd y ddau ar Northumbria. Lladdwyd Edwin mewn brwydr ym Meicen (neu Meigen: "Heathfield" yn Saesneg, sef Hatfield Chase yn Swydd Efrog yn ôl pob tebyg) yn 632.[1] Dyma'r cofnod cyntaf i Gymry a Saeson ymuno mewn cynghrair fel hyn. Am gyfnod yr oedd Cadwallon yn feistr ar Northumbria, ond y flwyddyn ganlynol lladdwyd ef ym Mrwydr Hexham yn erbyn Oswald, brenin Brynaich. Olynwyd Cadwallon gan ei fab, Cadwaladr ('Cadwaladr Fendigaid'). Moliant Cadwallon ac Afan FerddigCredir fod y gerdd Moliant Cadwallon yn perthyn i gyfnod Cadwallon ei hun. Mae'n bosibl mai Afan Ferddig a'i cyfansoddodd, er nad oes modd profi hynny. Yn ôl y gerdd, ymestynnai awdurdod Cadwallon o Fôn i Fynwy (Porth Sgiwed), a chyfeirir ato yn ymosod ar diriogaeth Elfed. Ceir cyfeiriad at Afan Ferddig mewn un o'r Trioedd: "Afan Ferddig bardd Cadwallon mab Cadfan,"[2] sy'n awgrymu mai ef oedd bardd llys Cadwallon. FfynhonnellauCyfeirir at Cadwallon yn Brut y Tywysogion wrth enwi ei fab, 'Cadwalader Fendigaid, mab Cadwallon, mab Cadfan, brenin y Brythoniaid'.[3]
Llyfryddiaeth
Cyfeiriadau
Information related to Cadwallon ap Cadfan |
Portal di Ensiklopedia Dunia