Planhigyn bwytadwy yn nheulu'r fresychen ydy brocoli. Mae ei flodyn gwyrdd golau wedi cael ei fwyta fel llysieuyn ers o leiaf cyfnod y Rhufeiniaid a mabwysiadwyd eu henw hwy arno yn Gymraeg a nifer o ieithoedd eraill, sef broccolo (Lladin), sy'n golygu "brig blodeuol y fresychen" a'r ffurf bachigol brocco, sef "hoelen fechan" neu "flaguryn".[3] Fel arfer caiff ei ferwi neu ei stemio, er mwyn ei feddalu ac er mwyn medru ei dreulio'n well.[4]
Dosbarthwyd brocoli i'r grŵp cylfatar 'Italica' o fewn y rhywogaeth Brassica oleracea. O ran ffurf ac edrychiad, mae'n edrych yr un siâp a choeden fechan: gyda'i ganghennau'n ymrannu ar yn ail a bonyn sylweddol; gellir bwyta'r bonyn hefyd. Caiff y blodau gwyrdd golau eu hamgylchu gan ddail, ac mae hyn yn debyg iawn i'r flodfresychen, sy'n grŵp cyltifar gwahanol o fewn yr un rhywogaeth.
Bridiwyd cnydau rêp dros sawl canrif yng ngwledydd gogleddol y Môr Canoldir, gan ddechrau oddeutu 6g CC, a dyma darddiad brocoli.[5] Ers hynny caiff ei ystyried yn fwyd maethlon a phwysig mewn sawl gwlad, yn enwedig gan yr Eidalwyr.[6]
Mewnforiwyd brocoli i Gymru am y tro cyntaf, hyd y gwyddom, o Antwerp, a hynny yng nghanol y 18g gan Peter Scheemakers.[7] Yn yr Unol Daleithiau, mewnforiwyd ef gan fewnfudwyr Eidalaidd, ond ni ddaeth yn boblogaidd tan y 1920au hwyr.[8]
* = Data answyddogol | [ ] = Data swyddogol | A = Swyddogol neu answyddogol neu amcangyfrifiad F = Amcangyfrif FAO | Im = Data FAO | M = Data ddim ar gael
Ffynhonnell: UN Food & Agriculture Organisation (FAO)[9]
Amaethu
Mae'r planhigyn brocoli'n tyfu ar ei orau mewn tywydd claear (ddim yn rhy gynnes nac yn rhy oer): yn enwedig pan gaiff dymheredd dyddiol o rhwng 18 °C a 23 °C.[10] Pan dyf y blodau yng nghanol y planhigyn, mae'r clwstwr yn wyrdd. Yr adeg hon, fel arfer, torrir y rhan uchaf oddeutu dwy gentimetr o'r top, a hynny cyn i'r blodyn droi'n felyn.[11]
Ond ceir math o frocoli (brocoli eginol) a all wrthsefyll tywydd poeth a'r pryfaid a ddaw yn sgil hynny.[12]
↑Smith,J.T. Nollekins and His Times, 1829 cyfrol 2:101: "Scheemakers, on his way to England, visited his birth-place, bringing with him several roots of brocoli, a dish till then little known in perfection at our tables."