Brian Flynn
Cyn bêldroediwr a rheolwr pêl-droed Cymreig yw Brian Flynn (ganwyd 12 Hydref 1955). Roedd yn chwaraewr rhyngwladol ac yn reolwr ar dîm cenedlaethol Cymru ond sydd bellach yn Gyfarwyddwr Pêl-droed ar glwb Doncaster Rovers. Roedd yn reolwr ar dîm pêl-droed dan 21 Cymru o 2004 tan fis Mai 2012[1] a chymrodd yr awenau dros-dro fel rheolwr Cymru wedi i John Toshack ymddiswyddo a chyn i'r Gymdeithas Bêl-droed benodi Gary Speed Gyrfa chwaraeClwbDechreodd Flynn ei yrfa gyda Burnley gan wneud ei ymddangosiad cyntaf ym 1973-74. Wedi 120 o ymddangosiadau yn y gynghrair, symudodd i Leeds United ym mis Tachwedd 1977. Wedi pum mlynedd yn Elland Road, symudodd yn ôl i Burnley ym mis Tachwedd 1982. Ar ôl 80 o gemau cynghrair dros gyfnod o pedair blynedd, ymunodd Flynn â Dinas Caerdydd ym mis Tachwedd 1984.[2] Aeth ymlaen i chwarae dros Doncaster Rovers, Bury, Limerick City a Wrecsam[3] a gwnaeth ei ymddangosiad olaf yn y gynghrair ar 3 Tachwedd 1992 pan ddaeth ymlaen fel eilydd yn erbyn Scunthorpe United.[4] RhyngwladolGwnaeth Flynn ei ymddangosiad cyntaf dros Gymru yn erbyn Lwcsembwrg ym mis Tachwedd 1974[5]. Llwyddodd i ennill 66 cap rhwng 1974 a 1984 gan sgorio 7 gôl. Gyrfa rheoliWrecsamCafodd ei benodi'n chwaraewr-reolwr ar Wrecsam ym 1989 cyn gadael Y Cae Ras yn 2001[6]. Yn ystod ei gyfnod wrth y llyw llwyddodd Wrecsam i ennill Cwpan Cenedlaethol yr FAW ar dair achlysur a daeth y clwb yn enwog am drechu rhai o gewri pêl-droed Lloegr yng Nghwpan FA Lloegr, timau fel Arsenal a West Ham United.[7][8]. Llwyddodd Flynn i sicrhau dyrchafiad i'r Adran Gyntaf[8]. Dinas AbertaweCafodd ei benodi'n reolwr ar Abertawe ym mis Medi 2002[9]. Roedd Abertawe ar waelod Y Gynghrair Bêl-droed pan gymrodd yr awenau[10] a bu rhaid disgwyl tan gêm olaf y tymor a buddugoliaeth 4-2 dros Hull City i sicrhau bod Abertawe yn cadw eu lle yn y Gynghrair[10][11]. Collodd Flynn ei swydd ym mis Mawrth 2004 yn dilyn rhediad siomedig o ganlyniadau[12] CymruYmunodd Flynn â thîm rheoli Cymru yn 2004 fel hyfforddwr tîm pêl-droed dan 21 Cymru[13]. Daeth y tîm o fewn trwch blewyn o gyrraedd Pencampwriaeth UEFA dan 21 Euro 2009 gan golli yn erbyn Lloegr yn y gemau ail gyfle[14]. Yn dilyn ymadawiad John Toshack fel rheolwr Cymru ym mis Medi 2010 cafodd Flynn ei benodi'n reolwr dros dro ar Gymru[15]. Cymerodd ofal o ddwy gêm yn erbyn Bwlgaria[16] a'r Swistir[17]. Ym mis Medi 2012, ni chafodd cytundeb Flynn gyda Chymdeithas Bêl-droed Cymru ei adnewyddu [18]. Doncaster RoversYm mis Ionawr 2013 cafodd Flynn ei benodi'n reolwr ar Doncaster Rovers[19] a llwyddodd i arwain y clwb i ddyrchafiad i'r Bencampwriaeth[20] Yn dilyn dyrchafiad cafodd Flynn ei benodi'n Gyfarwyddwr Pêl-droed ar Doncaster Rovers ond ym mis Awst 2014 gadawodd y clwb[21]. Cyfeiriadau
Information related to Brian Flynn |
Portal di Ensiklopedia Dunia