Brenhinllys
Perlysieuyn yw Brenhinllys (neu ar lafar ac yn Saesneg: Basil; Lladin: Ocimum basilicum) a ddefnyddir i roi blas ar fwyd, ac sy'n un o deulu mawr y mintys, sy'n ffynnu drwy dde-ddwyrain Asia, Thailand, Fietnam yn ogystal ag Iran ac India lle mae wedi cael ei gynaeafu ers 5,000 o flynyddoedd. Mae'r brenhinllys pêr ('Sweet basil') yn wahanol ac yn cael ei ddefnyddio mewn ceginau yn yr Eidal a gweddill Ewrop. Tarddiad y gair 'Basil' yw'r Roeg βασιλεύς (basileus) sy'n golygu 'Brenin'; a gwelir y cysylltiad Cymraeg ar unwaith. Planhigyn cynorthwyol(Sa: Companion plant) Mae'r Brenhinllys yn cael ei blannu'n aml nid yn unig i'w fwyta ond fel planhigyn cynorthwyol sy'n cael ei blannu gyda phlanhigion Tomato[1] gan ei fod yn wych am gadw'r pry gwyn draw.[2] Rhinweddau meddygolCaiff brenhinllys ei ddefnyddio gan rai i drin cramp yn y cyllau, taflu i fyny, rhwymedd, gordyndra a chur pen.[3] Ceir llu o anhwylderau sy'n cael eu trin gan frenhinllys ac yn eu plith y mae: blinder meddwl, asma a chlefyd y siwgr. gan ei fod yn wych am gadw'r pry gwyn draw.[2] Cyfeiriadau
Gweler hefydInformation related to Brenhinllys |
Portal di Ensiklopedia Dunia