Black Elk
Roedd Black Elk (Hehaka Sapa) (c. Rhagfyr 1863 – 17 Awst neu 19 Awst 1950) yn Wichasha Wakan (Medicine Man neu Dyn Sanctaidd) enwog o Oglaliad Lakota (Sioux). Roedd yn gefnder i Crazy Horse. Ei hanesBu'n dyst i sawl digwyddiad pwysig yn hanes rhyfeloedd yr Unol Daleithiau yn erbyn brodorion Americanaidd Canolbarth Gorllewin America. Cymerodd Black Elk ran, yn llanc tua deuddeg oed, ym Mrwydr Little Big Horn, 1876, a chafodd ei anafu yng nghyflafan Wounded Knee yn 1890. Yn 1887, teithiodd Black Elk i Brydain gyda Sioe Gorllewin Gwyllt Buffalo Bill, profiad annymunol a ddisgrifir ganddo yn y llyfr Black Elk Speaks. [1] Archifwyd 2006-03-24 yn y Peiriant Wayback Priododd Black Elk ei wraig gyntaf, Katie War Bonnett, yn 1892. Trôdd ei wraig at Gatholigiaeth, a bedyddwyd eu tri phlentyn yn Gatholigion. Ar ôl marwolaeth Katie yn 1903, cafodd Black Elk ei fedyddio hefyd, gan gymryd yr enw Nicholas Black Elk a gwasanaethu fel categydd. Ond parhaodd i wasanaethu fel arweinydd ysbrydol i'w bobl yn y dull brodorol, am na welai unrhyw wrthdaro rhwng dysgeidiaeth y grefydd Wakan Tanka frodorol, ac athrawiaeth Cristnogaeth. Yn 1905 priododd am yr eil dro, ag Anna Brings White, gwraig weddw gyda dwy ferch. Cawsant dri o blant ychwanegol, a bu farw Anna yn 1941. Tua diwedd ei oes datgelodd Black Elk hanes ei fywyd, ynghyd â manylion rhai defodau Sioux sanctaidd, i John Neihardt a Joseph Epes Brown i'w cyhoeddi; y canlyniad oedd y gyfrol Black Elk Speaks, a ystyrir yn glasur Americanaidd. LlyfryddiaethLlyfrau Black Elk
Llyfrau am Black Elk
Dolenni allanol
Information related to Black Elk |
Portal di Ensiklopedia Dunia