Bernice Rubens
Nofelydd o Gymraes oedd Bernice Rubens (26 Gorffennaf 1928 – 13 Hydref 2004). Hi oedd y fenyw gyntaf i ennill Gwobr Booker, yn 1970 am The Elected Member. Fe'i ganed yn ardal Splott, Caerdydd yn ferch i Eli Reuben, mewnfudwyr Iddewig a'i wraig Dorothy. Roedd ei thad yn hannu o Lithwania ac yn bwriadu teithio i Efrog Newydd am fywyd newydd yn yr UDA. Ar ôl cael ei dwyllo gan werthwr tocynnau yn Hamburg, ni gyrhaeddodd yn bellach na Chaerdydd a penderfynodd aros yno. Roedd teulu ei mam wedi ffoi o Wlad Pwyl.[1] Ysgrifennodd Rubens 24 o nofelau, a’u themau’n amrywio o deulu i Iddewiaeth. Yn Mehefin 2024, dadorchuddiwyd Plac Porffor ar hen dŷ ei theulu yn y Rhath, Caerdydd. Cafodd cynllun Placiau Porffor ei lansio yn 2017 gan wirfoddolwyr er mwyn gwella ymwybyddiaeth o gyfraniad menywod yng Nghymru.[2] Llyfryddiaeth
|
Portal di Ensiklopedia Dunia