Avenue Q (sioe gerdd)
Sioe gerdd 2003 ydy Avenue Q a gyfansoddwyd gan Robert Lopez a Jeff Marx, ac a gyfarwyddwyd gan Jason Moore. Ysgrifennwyd y llyfr gan Jeff Whitty. Yn wreiddiol, cynhyrchwyd ac agorwyd y sioe yn Theatr y Winwydden, oddi ar Broadway ym mis Mawrth 2003. Symudodd y cynhyrchiad i Broadway ym mis Gorffennaf 2003 ac enillodd nifer o Wobrau Tony, gan gynnwys gwobr am y Sioe Gerdd Orau. Mae Avenue Q yn parhau i gael ei pherfformio ar Broadway gan wneud y sioe y 23ain sioe gerdd hiraf yn hanes Broadway. Yn 2005, aeth y sioe i Las Vegas a gwelwyd nifer o gynhyrchiadau gan gynnwys yn West End Llundain. Dechreuodd taith genedlaethol o amgylch yr Unol Daleithiau ym mis Gorffennaf 2007 a daeth i ben ym mis Mai 2009. Mae'r sioe ei hun yn drwm o dan ddylanwad (ac ar arddull) y rhaglen deledu Sesame Street. Mae'r mwyafrif o gymeriadau'n bypedau (sy'n cael eu gweithredu gan actorion ar lwyfan), ac mae'r set yn darlunio nifer o gartrefi mewn ardal difreintiedig yn un o fwrdeisdrefi allanol Dinas Efrog Newydd. Mae'r cymeriadau byw a'r pypedau i'll dau yn canu, a dangosir clipiau fideo animeiddiedig fel rhan o'r stori. Gellir gweld yn syth fod nifer o'r cymeriadau yn barodiau o gymeriadau traddodiadol "Sesame Street"; er enghraifft, mae'r ddau gymeriad sy'n rhannu ystafell Rod a Nicky yn fersiynnau o gymeriadau Bert ac Ernie o "Sesame Street", tra bod Trekkie Monster yn seiliedig ar Cookie Monster. Serch hynny, mae'r cymeriadau yma yn eu hugeiniau a'u tridegau ac wynebant problemau oedolion, gan wneud y sioe yn fwy addas ar gyfer oedolion a fagwyd yn gwylio "Sesame Street". Roedd pedwar aelod o'r cast gwreiddiol (John Tartaglia, Stephanie D'Abruzzo, Jennifer Barnhart a Rick Lyon) wedi gweithio ar "Sesame Street" yn flaenorol. Mae'r cymeriadau'n rhegi, ac yn canu caneuon gyda themâu sy'n addas ar gyfer oedolion. Un o themâu canolog y sioe yw dyhead y prif gymeriadau i ddod o hyd i "bwrpas" i'w fywyd. Ers i drac sain y sioe gerdd gael ei rhyddhau, mae'r gân "The Internet Is for Porn" wedi dod yn boblogaidd ar wefannau fel YouTube a gellir ei lawrlwytho'n rhad ac am ddim o'r wefan swyddogol. Yn ôl gwefan swyddogol y cynhyrchiad, mae'r sioe yn addas ar gyfer oedolion ac arddegwyr aeddfed. Rhestr o'r caneuon
‡ Nid yw ar recordiad gwreiddiol y cast. Dolenni Allanol
Information related to Avenue Q (sioe gerdd) |
Portal di Ensiklopedia Dunia