Arwystli Is Coed
Cwmwd yn ne-orllewin Teyrnas Powys (gorllewin canolbarth Powys heddiw) oedd Arwystli Is Coed (neu Arwystli Iscoed). Gyda'i gymydog i'r gorllewin, Arwystli Uwch Coed, roedd yn un o ddau gwmwd cantref Arwystli. Gorweddai'r cwmwd yn y bryniau isel i'r gorllewin o'r Drenewydd. Ffiniai â chantref Cedewain i'r dwyrain, rhannau o Ceri, Maelienydd, a Gwrtheyrnion i'r de, Arwystli Uwch Coed i'r gorllewin, a chantref Cyfeiliog a rhan fach o gantref Caereinion i'r gogledd. Caersŵs oedd prif ganolfan weinyddol y cwmwd. Roedd Llangurig yn ganolfan eglwysig o bwys. Yn ddiweddarach, yn yr Oesoedd Canol Diweddar, daeth Trefeglwys yn enwog am y Grog o'r Iesu rwymedig yn yr eglwys, a foliwyd gan Siôn Ceri ac mewn cywydd gan awdur anhysbys a dadogir ar Siôn Cent.[1] Gweler hefydCyfeiriadau
Information related to Arwystli Is Coed |
Portal di Ensiklopedia Dunia