Afon Conwy
Afon yng ngogledd Cymru yw Afon Conwy. Enwir Bwrdeistref Sirol Conwy ar ei hôl am ei bod yn llifo trwy ganol y sir. Mae tref Conwy yn dwyn ei henw hefyd, er mai Aberconwy oedd ei henw gwreiddiol. Cwrs yr afonMae'n tarddu tua 1,550 troedfedd uwch lefel y môr yn Llyn Conwy, sydd bellach yn gronfa dŵr, ar Y Migneint. Filltir i'r de o'r llyn mae'n rhedeg dan y B4407 ac yn troi i'r gogledd i ddilyn y ffordd fel ffrwd fach trwy weundir corsiog y Migneint cyn llifo trwy Ysbyty Ifan. O Ysbyty Ifan ymlaen mae'r afon yn ffurfio'r ffin rhwng hen siroedd Caernarfon a Dinbych am y rhan fwyaf o'i chwrs. Ger Pentrefoelas mae hi'n cwrdd â'r A5 ac yn rhedeg heibio i erddi rhododendron y Foelas a thrwy chwm cul coediog rhwng y bryniau i'w haber ag Afon Machno, sy'n dod i mewn iddi o'r gorllewin o gyfeiriad Penmachno. Fymryn uwchlaw'r aber honno ceir rhaeadrau ar Afon Machno a mymryn islaw ar Afon Conwy ei hun mae: Rhaeadr y Graig Lwyd [1] yn gorwedd mewn ceunant werdd ddofn; mae ystol eogiaid yma i gynorthwyo'r eogiaid ar eu taith i fyny'r afon. Fymryn islaw eto ceir Ffos Noddyn (y Fairy Glen yn Saesneg) lle rhed yr afon trwy ceunant greigiog a choedwig pinwydd cyn derbyn dŵr Afon Lledr i'w llif. Cyn cyrraedd pentref Betws-y-Coed mae Afon Llugwy yn ymuno â hi yn ogystal. Llyn yr Afanc yw'r enw ar y pwll mawr o ddŵr tawel tywyll ger aber y ddwy afon ac mae yna chwedl werin am yr anghenfil oedd yn byw yno a gafodd ei swyno allan o'r llyn gan eneth ifanc a'i llusgo i fyny'r dyffryn i Lyn Cwm Ffynnon Las, ger Dolwyddelan. Mae'r afon yn llifo wedyn dan bont haearn enwog Pont Waterloo, sy'n cludo'r ffordd A5 drosti. Mae Afon Conwy yn awr yn llifo'n arafach o lawer tua'r gogledd, heibio i ddolydd eang a phorthfa bras i lawr i Lanrwst a than pont dri bwa Inigo Jones. Yn is i lawr mae'n llifo heibio i bentrefi Trefriw, Dolgarrog a Thal-y-bont ac yn mynd heibio i Gaerhun a safle'r gaer Rufeinig Canovium a'i hen eglwys. Mae pont yn cysylltu Tyn-y-Groes a Tal-y-cafn dros yr afon ac i'r gogledd i Dyn-y-Groes mae hi'n llifo wrth droed hen gaer Geltaidd Bryncastell. Mae'r afon yn ymledu ar ôl Tal-y-cafn ac yn mynd heibio i Glan Conwy cyn cyrraedd y môr yn ymyl tref Conwy. Yng Nghonwy mae ei llif yn cael ei chyfyngu i redeg dan dair pont ger muriau'r castell: Pont Grog Conwy gan Telford, Pont Rheilffordd Conwy gan Stephenson, a phont ffordd a adeiladwyd ym 1958. Mae'r bont honno, a'r dref, bellach wedi eu hosgoi gan yr A55, sy'n rhedeg mewn twnnel dan yr afon. Wrth ymyl y pontydd hefyd y mae Afon Gyffin yn ymuno â hi. Mae Afon Conwy yn afon lanwol ar ran olaf ei thaith a gall effaith y llanw gyrraedd cyn belled â Llanrwst ar lanw mawr. Mae ei haber, Aberconwy yn llydan rhwng Conwy a Deganwy ac yn boblogaidd gan berchnogion cychod hwylio, fel y mae'r marina newydd ger Morfa Conwy yn tystio. Yn y gorffennol Aberconwy oedd yr enw brodorol am dref Conwy ei hun. Mae'r banciau tywod eang yn yr aber yn enwog am eu gwelyau cregyn gleision a bysgotir o hyd o harbwr Conwy. Mewn hanes
Llednentydd
PysgodfeyddLlyfryddiaeth
Gweler hefydCyfeiriadau
Oriel
Information related to Afon Conwy |
Portal di Ensiklopedia Dunia