Siôn Owens
Comedïwr a cherddor o Gymru yw Siôn Meirion Owens. Mae'n gael ei adnabod mwyaf fel aelod o'r band Y Bandana. BywgraffiadMagwyd Siôn yng Nghaernarfon, gan fynychu Ysgol Syr Hugh Owen.[1] Mae ganddo frawd hŷn, Tomos Owens, oedd hefyd yn aelod o Y Bandana. Ddaru Siôn astudio Peirianneg Meddygol ym Mhrifysgol Caerdydd yn 2010, wrth raddio yn 2015.[2] GyrfaCerddoriaethFfurfiodd Siôn a'i frawd Tomos Y Bandana ym mis Medi 2007 wrth ofyn i'w cefnder, Gwilym, i ymuno â nhw wrth jamio yn eu hystafell wely a phenderfynu ar enw i fand - Y BANDANA (y band da 'na). O fewn pythefnos i'r band ffurfio, roeddent yn chwarae eu gig gyntaf.[3] Bu'r band yn brysur iawn am naw mlynedd gan berfformio'n fyw yn gyson. Mi drefnon nhw nifer o deithiau ar ei liwt eu hunain gan wahodd bandiau ifanc eraill i ymuno â nhw. Wnaethon nhw berfformio ar lwyfan Maes B yn yr Eisteddfod Genedlaethol am naw mlynedd yn olynnol 2008-2016. Cyn Eisteddfod y Fenni 2016 cyhoeddodd y band eu bod am rhoi'r gorau iddi a chwaraeodd y band eu gigs olaf yn Hydref 2016. Roedd gan Y Bandana dair cân yn siart 40 MAWR BBC Radio Cymru 2014 - sef siart o hoff ganeuon y gwrandawyr yn dilyn pleidlais yn Eisteddfod Genedlaethol Sir Gâr. Yn 2016 roedd gan y band bum cân yn siart 40 MAWR - "Heno yn yr Anglesey"; "Cyn i'r lle ma gau"; "Geiban"; "Cân y Tân" a "Dant y Llew".[4] Roedd Siôn hefyd yn gitarydd a prif leisydd i'r band Uumar. ComediDdaru Siôn berfformio stand-yp am y tro cyntaf yn 2016 fel rhan o "Cymryd y Mic", sialens gan gyfres teledu Y Lle i gael pobl adnabyddus i berfformio stand-yp am y tro cyntaf ar y teledu. Ddaru Siôn gario mlaen i berfformio yn Gymraeg ac yn Saesneg, a ffilmio Pwnc Pum Munud ar gyfer S4C Comedi yn 2019.[5] Fe berfformiodd fel rhan o 'Gala'r Goreuon' ar gyfer S4C yn 2019.[6] Roedd o'n cyfrannu yn rheolaidd ar gyfer BBC Sesh ac yn 2020 recordiodd y podcast "Fy Nhro Cyntaf".[7] Fe berfformiodd fel Gruff yn y gyfres comedi 'Vandullz' ar gyfer BBC 1 yn 2021.[8] Cyfeiriadau
Information related to Siôn Owens |
Portal di Ensiklopedia Dunia