Lübeck
Dinas yn nhalaith Schleswig-Holstein yng ngogledd yr Almaen yw Lübeck. Hi yw ail ddinas y dalaith o ran poblogaeth, gyda phoblogaeth o 213,983 yn 2005. Cyhoeddwyd canol hanesyddol y ddinas yn Safle Treftadaeth y Byd gan UNESCO yn 1987. Sefydlwyd Lübeck fel Liubice gan y Slafiaid yn yr 8g, ond yn 1138 llosgwyd hi. Yn 1143, ail-sefydlwyd y ddinas gan y tywysog Almaenig Adolf II o Holstein. Gwnaed hi yn ddinas rydd o fewn yr Ymerodraeth Lân Rufeinig gan yr ymerawdwr Ffrederic II yn 1226. Datbygodd Lübeck i fod yn ddinas bwysicaf y Cynghrair Hanseataidd ac yn brifddinas answyddogol y Cynghrair. Yn y cyfnod hwnnw, enillodd y llysenw "Carthago y Gogledd".[1] Yn 1937, dan Adolf Hitler, collodd y ddinas ei hanibyniaeth a dod yn rhan o dalaith Schleswig-Holstein. Pobl enwog o Lübeck
Cyfeiriadau
Dinasoedd
Information related to Lübeck |
Portal di Ensiklopedia Dunia