Diciâu
![]() Clefyd a achosir gan deulu o facteria, yn enwedig Mycobacterium tuberculosis yw'r diciâu (TB). Hen enw ar y clefyd oedd y ddarfodedigaeth. Mae'n effeithio ar yr ysgyfaint yn bennaf, ond gall hefyd effeithio ar y system nerfau a rhannau eraill o'r corff. Cyhoeddodd Robert Koch ei ddarganfyddiad mai Mycobacterium tuberculosis oedd yn achosi'r diciâu ar 24 Mawrth 1882. Pan gaiff unigolyn ei heintio gan amlaf bydd y system imiwnedd yn lladd y bacteria gyda gwrthgyrff ac ni fydd yr unigolyn yn dangos unrhyw symptomau. Os na all hyn ddigwydd, y llinell amddiffyniad nesaf yw i'r system imiwnedd adeiladu rhwystr o gwmpas y bacteria. Bydd y bacteria'n aros yng nghorff yr unigolyn (TB cudd) ond ni fydd yr unigolyn yn dangos unrhyw symptomau. Gall TB cudd ddatblygu'n TB gweithredol yn ddiweddarach ym mywyd unigolyn, yn enwedig os yw system imiwnedd yr unigolyn wedi gwanhau. Mewn ambell i achos ni all y system imiwnedd ladd neu ddatblygu rhwystr rhag yr haint. Yna bydd y bacteria yn ymledu'n araf i'r ysgyfaint a'r system dreulio. SymptomauMae'r haint yn datblygu mor araf fel bod symptomau TB weithiau ddim yn ymddangos am lawer o flynyddoedd ar ôl i'r unigolyn gael ei heintio. Y prif symptomau yw peswch nodweddiadol, yn aml gyda gwaed yn y poer, gwres uchel a cholli pwysau. Gall y clefyd ledaenu trwy'r aer, wrth i rai sy'n dioddef ohono besychu, tisian neu boeri. Yn y gorllewin, mae'r clefyd yn llawer llai cyffredin bellach nag yr oedd yn y gorffennol, ond mae'n dal i fod yn gyffredin mewn llawer rhan o'r trydydd byd. ImiwneiddioO blith yr unigolion hynny sy'n derbyn y brechlyn BCG (Basilws Calmette a Guérin), bydd 70-80% o'r unigolion yn cael eu hamddiffyn rhag TB. Yn y gorffennol roedd pob plentyn yn derbyn BCG fel rhan o raglen frechu eu plentyndod, ond caiff y clefyd ei reoli mor dda gan y brechiad nawr fel na roddir y brechiad yn ystod plentyndod oni bai fod risg uwch y bydd y plentyn yn dod i gysylltiad â bacteria'r TB, e.e. mae gan rai ardaloedd o Ganol Llundain gyfraddau uwch o’r TB, felly gallai baban a enir yn yr ardaloedd hyn dderbyn y brechiad BCG. Rhoddir brechiadau hefyd i weithwyr iechyd sydd wedi dod o, neu sy'n bwriadu mynd i wlad ble mae TB yn fwy cyffredin. Gellid hefyd eu rhoi i unigolyn sydd wedi bod mewn cysylltiad agos ag unigolyn sydd wedi'i heintio gan TB.[1] Pobl enwog fu farw o'r diciâu
Diciâu mewn anifeiliaidMae mycobacterium bovis yn achosi diciâu mewn gwartheg. Gall y clefyd gael ei gario gan anifeiliaid eraill. Yng Nghymru, roedd gan y Llywodraeth gynllun i ddifa moch daear o fewn ardal gyfyngedig fel arbrawf i weld a fyddai hyn yn atal lledaeniad y clefyd ymysg gwartheg, ond bu rhaid rhoi'r gorau i'r cynllun yn dilyn dyfarniad llys ym mis Awst 2010. Tarddiad y gairTra mai amrywiaeth ar tuberculosis yw'r gair cyffredin mewn ieithoedd eraill am y clefyd, mae'r Gymraeg yn arddel dau air arall, diciâu a darfodedigaeth.
Cyfeiriadau
Information related to Diciâu |
Portal di Ensiklopedia Dunia