Deddfau'r Cyfreithiau yng Nghymru 1536 a 1542
Roedd Deddfau Cyfreithiau yng Nghymru 1536 a 1542, (neu Deddfau Uno, sy'n derm camarweiniol[1])yn ddwy ddeddf a basiwyd yn San Steffan i "gorffori" Cymru'n wleidyddol â theyrnas Lloegr yngyd â'i "huno a'i chysylltu" â hi, ac i ddileu'r iaith Gymraeg. Saesneg o hyn ymlaen oedd iaith swyddogol y gyfraith a gweinyddiaeth. Defnyddiwyd y term 'Deddfau Uno' gan y barnwr Syr John Alun Pugh, mewn darlith a draddodwyd yn ystod Ysgol Haf Plaid Genedlaethol Cymru 1936.[2] CefndirAr ôl i Harri VIII wneud ei hun yn bennaeth Eglwys Lloegr ym 1534, gwelwyd Cymru fel broblem bosibl a oedd yn cynnwys dynion uchelgeisiol a oedd yn anhapus a'i hanfantais ethnig ac yn rhwystredig gyda chymhlethdodau cyfreithiol. Bu Cymru hefyd yn dir glanio i Harri Tudur ac yn agos at Iwerddon Gatholig. Prif weinyddwr coron Lloegr, Thomas Cromwell, a anogodd y Deddfau yn 1536 a 1542-43 i wneud Cymru yn rhan o Loegr. Nodir fod Cymru'n barod wedi'i gorchfygu ac yna'i hatodi gan Loegr yn dilyn concwest Edward I, dan Statud Rhuddlan yn 1284.[3] Gweithred y deddfauDiddymwyd Y Mers ac ehangwyd Tywysogaeth Cymru dros Gymru cyfan. Dilewyd y Gyfraith Cymreig. Disgrifiwyd Cymru fel "Tywysogaeth, Gwlad neu Diriogaeth" a ffirfiwyd ffin â Lloegr. Caniatawyd i Gymry ddal swydd gyhoeddus ond gyda â'r gofyniad i allu siarad Saesneg a gwnaed Saesneg yn iaith y llysoedd yn ogystal a system a farnwriaid "Sesiwn Fawr Cymru". Cadarnhawyd statws yr iaith Saesneg trwy wneud hyn. Rhannwyd y Mers yn siroedd newydd a'u ychwanegu at siroedd Pura Wallia a grewyd ar ôl y concwest.[3] YmatebYn ôl yr awdur Walter Davies mewn traethawd eisteddfodol yn 1791, pasiwyd y ddedf gan Harri VIII mewn ymateb i gwyn gan y Cymry nad oedd gennynt yr un hawliau a'r Saeson.[4] Yn ôl yr hanesydd gyfoes Martin Johnes, roedd yr uchelwyr Cymreig yn croesawu ennill hwaliau newydd a therfyn y system apartheid a fodolodd tan y pwynt hwn ond mae'n anhebygol y fyddai'r werin yn ymwybodol o'r newid.[3] Cyfeiriadau
Information related to Deddfau'r Cyfreithiau yng Nghymru 1536 a 1542 |
Portal di Ensiklopedia Dunia