Codi Stêm (panto)

Codi Stêm
Dyddiad cynharaf1987
AwdurGruffudd Jones a Gwen Ellis
Cyhoeddwrheb ei chyhoeddi
GwladCymru
IaithCymraeg
Cysylltir gydaHwyl a Fflag
Pwncpantomeim
GenrePantomeim Cymraeg
CyfarwyddwrWyn Bowen Harris
CyfansoddwrGeraint Cynan

"Sioe Nadolig i'r teulu" a lwyfannwyd gan Hwyl a Fflag ym 1987 yw Codi Stêm. Cyfansoddwyd y sioe gan Gruffudd Jones a Gwen Ellis a'r gerddoriaeth gan Geraint Cynan. Wyn Bowen Harris oedd y cyfarwyddwr. Dyma'r ail sioe neu bantomeim i Hwyl a Fflag lwyfannu yn sgil methiant Cwmni Theatr Cymru ym 1984.[1]

Cefndir

"Dyma sioe nadolig newydd sbon sydd yn symud fel Roced!", ebe taflen hysbysebu'r sioe, "Felly neidiwch ar fwrdd eich trên stêm ac ymunwch yn yr antur i ddod o hyd i'r iâr fawr felyn. Mae hi gymaint o angen eich cymorth ag yr oedd Jim Cro Crystyn y llynedd".[1]

Cymeriadau

Cynyrchiadau nodedig

Llwyfannwyd y sioe gan Hwyl a Fflag yn ystod y Gaeaf 1987 a Gwanwyn 1988; cyfarwyddwr Wyn Bowen Harris; cast: Sera Cracroft, Dylan Davies, Morfudd Hughes, Siân James, Maldwyn John, Tom Richmond a Danny Grehan.


Cyfeiriadau

  1. 1.0 1.1 Rhaglen hysbysebu Codi Stêm gan Hwyl a Fflag. 1987.
Prefix: a b c d e f g h i j k l m n o p q r s t u v w x y z 0 1 2 3 4 5 6 7 8 9

Portal di Ensiklopedia Dunia

Kembali kehalaman sebelumnya